top of page

Parti Nadolig Annedd Ni 2022!

Writer: Annedd NiAnnedd Ni

Ar ddydd Mercher 14eg Rhagfyr cynhaliwyd ein parti Nadolig cyntaf ers 2019 yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon. Braf oedd cael cymaint o bobl yno i rannu yn ysbryd yr wyl!



Llawer o ddawnsio i alawon Nadolig clasurol trwy gydol y noson diolch i'n Dewi- gwneud job wych fel DJ unwaith eto! Cawsom gantorion penigamp ar y Karaoke hefyd - da iawn i bawb ddaeth i'r llwyfan i ganu! Hefyd cynhaliwyd cystadleuaeth Siwmper Nadolig/Gwisgoedd Nadoligaidd - da iawn i Jen, Max, Julian a Siwan a enillodd jar o felysion am eu siwmperi Nadolig gwych! A bloedd i Denise, ein Annedd Ni Elf am ei hymdrech anhygoel gyda gwisg ffansi bob parti!


Bydd ein parti nesaf adeg y Pasg, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i gefnogi Annedd Ni drwy gydol 2022 a dymuno Nadolig Llawen iawn i chi a phob dymuniad da ar gyfer 2023! Dyma rhai lluniau o'r noson!


 

Recent Posts

See All

Cwmni Serol- Perfformiad Nadolig

Yn 2023 ymunodd Annedd Ni a Franwen i ddatblygu ein grŵp drama i'r 'Cwmni Serol' newydd. Ar ddydd Llun 16 Rhagfyr roedd ein grŵp i gyd...

Parti Nadolig Annedd Ni 2024!

Ar y 3ydd o Ragfyr cynhaliodd Annedd Ni eu parti Nadolig blynyddol yng Nghlwb Pêl-droed Bangor - roedd yn brynhawn gwych llawn hwyl yr...

Plant mewn Angen 2024!

Yr wythnos hon cafodd ein grŵp sgiliau dydd Mawrth ymweliad annisgwyl gan Pudsey Bear! Fel rhan o’r sesiwn fe ddysgon ni ychydig am Plant...

Comments


Polisi Preifatrwydd

36 Ffordd Sackville

Bangor

Gwynedd

LL57 1LD

E-bost: anneddni@anheddau.co.uk
Ffôn: 01248 355412

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Diolch yn Fawr!

© 2020 gan Wasanaeth Dydd Annedd Ni.

Defnyddiwch y ffurflen hon i gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau:

Diolch am gyflwyno!

bottom of page