top of page

Annedd Ni

Amserlen Gwasanaeth Dydd

IMG-20221018-WA0001_edited_edited.jpg

Dyma lle gallwch chi ddarganfod pa sesiynau sy'n cael eu cynnal yn Annedd Ni ar hyn o bryd - mae ein hamserlen yn newid o bryd i'w gilydd wrth i ni gyflwyno sesiynau newydd. Rydym hefyd yn darparu cyrsiau byr mewn amryw bynciau.

Mae disgrifiad byr o dan bob pwnc - edrychwch hefyd ar ein tudalen oriel am luniau o'r sesiynau ar waith!

Diwrnod

Dydd Llun

Dydd Mawrth

Dydd Mercher

Dydd Iau

Dydd Gwener

Dydd Sadwrn

Bore

Sesiynau snoezelen ar gael

​

Mae'r Snoezelen yn Annedd Ni yn cynnig amgylchedd hamddenol lle gallwch orwedd ar ein 'beanbags' cyfforddus, gwylio'r tiwb swigen tawel a chael eich swyno gan oleuadau a thafluniadau lliwgar sy'n gadael ichi ddianc i fyd arall. Hyn i gyd ynghyd â cherddoriaeth swynol gan ddefnyddio Spotify neu YouTube, nid oes cyfyngiad i'ch dewis. Mae'r Snoezelen yn wledd i'ch holl synhwyrau.

Sgiliau Byw 10-2yp

Mae ein sesiynau sgiliau byw yn ffordd wych o loywi eich sgiliau, rydym yn edrych ar amrywiaeth o feysydd megis cadw amser, cyllidebu a sgiliau a chyfleoedd yn y gweithle. Rydyn ni'n ymdrin ag un pwnc bob wythnos, gyda'r rhai sy'n mynychu yn cymryd cyfeiriad o ran yr hyn yr hoffent ei ddysgu. Ar ôl cinio mae awr o amser hamdden i chwarae gemau, ymweld â chaffi neu fod yn greadigol gan y gwyddom fod cymdeithasu yr un mor bwysig â dysgu!

Clwb Cerdded 10yb -3.30yp

 

Bob dydd Mercher, dewch law neu heulwen, mae'r grŵp yn mentro allan i fwynhau teithiau cerdded lefel isel yng nghefn gwlad hardd yr ydym yn ffodus eu cael yn agos at ein drws. Mwynhewch amrywiaeth o dirweddau; traethau, coedwigoedd a mynyddoedd i enwi ond ychydig!.Mae ein grŵp yn gyfeillgar iawn, dan arweiniad Ian gyda cefnogaeth gan Gail - mae gan y ddau ohonyn nhw lawer o wybodaeth am yr ardal leol ac maen nhw hefyd yn mwynhau mynd â'r grŵp i lefydd o ddiddordeb fel Plas Newydd a chestyll lleol hefyd. Dewch draw i roi cynnig arni, dewch â chinio pecyn a gallwn roi benthyg unrhyw offer i chi fel esgidiau uchel ac offer tywydd gwlyb .... felly beth sy'n eich rhwystro chi?

Cerddoriaeth 10-11yb

 

Arweinir sesiynau cerddoriaeth Annedd Ni gan Dewi, ein cerddor mewnol sy'n canu ac yn chwarae amrywiaeth o ganeuon. Anogir unigolion i chwarae ar amrywiaeth o wahanol offerynnau sydd ar gael gennym yn Annedd Ni, neu mae ‘na croeso i chi godi a dawnsio os ydych chi eisiau. Anogir pawb i ganu cân unigol gyda'r meicroffon hefyd (os ydyn nhw'n dymuno) ac rydyn ni'n gweld hyder yn datblygu ac yn disgleirio! Yna mae llawer o'r grŵp sy'n dechrau canu fel rhan o'r sesiwn gerddoriaeth yn mynd ymlaen i fwynhau cymryd rhan yn y Karaoke yn ein partïon hefyd.

Dewch draw i wneud ychydig o sŵn! Mae cerddoriaeth yn weithgaredd gwych mewn cymaint o ffyrdd - mae'n ffordd wych o leddfu teimladau dirdynnol, ymarfer corff da ac, ar ben hynny, llawer o hwyl.

IMG-20240227-WA0001_edited.jpg

Prynhawn

Drama 1- 3yp

 

Pwy neu beth fyddwch chi heddiw? Ble ewch chi a beth fyddwch chi'n ei wneud?

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau drama yn ffordd wych o adeiladu hunanhyder, gan ddangos pwysigrwydd gwaith tîm a helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd. Gydag actio, canu ac ymarferion corfforol mae yna rywbeth a fydd yn addas i bawb. 

Rydym yn gweithio gyda Franwen felly mae ein sesiynau wedi eu lleoli yn Nyth Bangor, gydag Elis yn arwain y sesiwn yn dod a’i brofiad i helpu’r criw i gyrraedd eu nodau!

20240220_131330.jpg
Beryl's Bonnets

Creu a Chanu 1- 3yp

 

Mae llawer o weithgareddau celf a chrefft, gan gynnwys gwaith nodwydd fel rhan o'r elfen 'creu' o'r sesiwn!

Ar ôl egwyl diod gallwch ddewis parhau â'ch pethau creadigol, neu ymuno â rhywfaint o ganu, neu'r ddau!

 

Anogir pawb i ganu cân unigol gyda'r meicroffon hefyd (os ydyn nhw'n dymuno) ac rydyn ni'n gweld hyder yn datblygu ac yn disgleirio. Yna mae llawer o'r grŵp sy'n dechrau canu fel rhan o'r sesiwn gerddoriaeth yn mynd ymlaen i fwynhau cymryd rhan yn y Karaoke yn ein partïon hefyd.

​

Celf a Chrefft 1.30-3yp

 

Peintio, darlunio neu wneud crefftau - byddwch chi'n gallu rhoi cynnig ar y rhain i gyd a mwy yn ein sesiynau Celf. Profir celf a chrefft fel gweithgareddau therapiwtig - beth am ymuno â ni yn ein sesiwn ysgogol a datgloi'r sgiliau creadigol hynny nad oeddech chi erioed wedi meddwl oedd gennych chi. Gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddefnyddiau byddwch chi'n gallu creu ac arddangos eich campweithiau yn eich cartref eich hun, yn Annedd Ni neu yn ein Oriel Gelf Ar-lein !

Socials Dydd Sadwrn 1.30- 4.30yp

 

Ar brynhawn Sadwrn ymunwch â ni i dreulio amser gyda ffrindiau; mae yna amrywiaeth o weithgareddau ar gael gyda Karaoke, celf a chrefft, gemau bwrdd a theithiau allan i'r gymuned leol hefyd.

​

Arweinir y sesiwn hon gan y rhai sy'n mynychu felly os oes gennych syniad o rywbeth yr hoffech i ni ei gynnig, rhowch wybod i'r staff a byddwn yn siŵr o edrych i mewn iddo.

Gyda'r nos

Noson Gymdeithasol 6-8yp

 

Mae ein noson gymdeithasol yn rhoi cyfle i chi ddod at eich gilydd mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar i gael sgwrs, mwynhau paned a chymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau fel celf a chrefft, bingo a gemau bwrdd hefyd.

​

Clwb Dringo 6-8pm

Fel rhan o'r noson gymdeithasol gallwch hefyd roi cynnig ar ein wal ddringo - mae'n gyflwyniad gwych i ddringo, sy'n cael ei redeg gan hyfforddwyr gweithgareddau awyr agored cwbl gymwys. Rydym yn annog pawb i ddysgu sgiliau newydd, magu hunanhyder ac, yn anad dim, cael hwyl! Mae cyfle hefyd i gwblhau cymhwyster NICAS, sy'n cofnodi'ch dilyniant wrth i chi ddringo i uchelfannau newydd.

Clwb Enfys: Celf a Chrefft 6-8yp

 

Peintio, darlunio neu wneud crefftau - byddwch chi'n gallu rhoi cynnig ar y rhain i gyd a mwy yn ein sesiynau Celf. Profir celf a chrefft fel gweithgareddau therapiwtig - beth am ymuno â ni yn ein sesiwn ysgogol a datgloi'r sgiliau creadigol hynny nad oeddech chi erioed wedi meddwl oedd gennych chi. Gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddefnyddiau byddwch chi'n gallu creu ac arddangos eich campweithiau yn eich cartref eich hun, yn Annedd Ni neu yn ein Oriel Gelf Ar-lein !

Gallwch hefyd ymuno â ni ar-lein ar gyfer y sesiwn hon, cysylltwch â ni i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio

Sesiwn Gemau yn Caernarfon 4-6yp

​

Bob yn ail ddydd Gwener fe ddewch chi o hyd i ni yn yr ystafell y tu ôl i Gaffi Cegin Arfon yng Nghanolfan Hamdden Caernarfon lle byddwch chi'n dod o hyd i amrywiaeth o gemau bwrdd, posau a hefyd y Nintendo Wii i'w chwarae.

​

 

Mae'r sesiwn hon yn ymwneud â chael hwyl gyda ffrindiau, os oes gêm yr hoffech ei chwarae rhowch wybod i Rachel a bydd yn ei archebu! Mae digonedd o luniaeth ar gael hefyd!

20230210_171822 (1).jpg

Sut i ddod o hyd i ni:

  • 7£
    Valid for one week
Payment
bottom of page