Ar y 3ydd o Ragfyr cynhaliodd Annedd Ni eu parti Nadolig blynyddol yng Nghlwb Pêl-droed Bangor - roedd yn brynhawn gwych llawn hwyl yr wyl, alawon, bwyd, dawnsio ac wrth gwrs Carioci hefyd!
Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd, roedd yn wych gweld cymaint ohonoch yn eich siwmperi Nadolig yn mwynhau eich hunain!
Diolch yn fawr iawn i Ben a thîm Clwb Pêl-droed Bangor am fod yn westeion mor groesawgar!
A bloedd arbennig i’r Hogan Group Ltd- buont yn garedig iawn yn cyfrannu dros 70 o anrhegion i sicrhau bod pawb sy’n mynychu Annedd Ni a’n partïon wedi cael anrheg y Nadolig hwn! Daeth Nat o Hogan draw i’r parti i ddosbarthu’r anrhegion ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi hi a’r tîm!
Dyma rhai lluniau o'r Parti!
Yn olaf, diolch i dîm Annedd Ni am eu holl waith caled yn gwneud pob parti yn llwyddiant- Clare, Denise, Loveth a Sue, a diolch enfawr i'n DJ Dewi, a'i ddyn llaw dde Jos hefyd!
Comments