top of page
Writer's pictureAnnedd Ni

Cwmni Serol- Perfformiad Nadolig

Yn 2023 ymunodd Annedd Ni a Franwen i ddatblygu ein grŵp drama i'r 'Cwmni Serol' newydd.

Ar ddydd Llun 16 Rhagfyr roedd ein grŵp i gyd yn sêr llwyr wrth iddynt berfformio'n fyw i ffrindiau a theulu yn Nyth.


Dewisodd y grŵp i gyd eu cymeriadau eu hunain:


Ryan: Sion Corn

Tracy: Belle

John: Adam (Y Bwystfil ar ffurf ddynol)

Michael: Casper yr Ysbryd cyfeillgar

Hannah: Sarah Davies

Rhodri: Darlledy



Dilynon ni siwrnai Casper ddim eisiau mynd i’r Ddawns oherwydd doedd o ddim yn meddwl y gallai ddawnsio- roedd yr holl gymeriadau eraill yn ei helpu i weld bod unrhyw un yn gallu dawnsio a rhoddodd yr hyder a’r gefnogaeth iddo fwynhau ei hun!


Diolch yn fawr i Elis, Erin a Non yn Nyth, ochr yn ochr â thîm Annedd Ni am gefnogi’r criw i greu perfformiad mor wych!



Da iawn pawb!





Comments


bottom of page