Nos Sadwrn 2 Rhagfyr aeth Hannah, Paul, Iolo, Alwyn a Becky i Pontio i wylio Elin Fflur yn perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Roedd yn noson wych yn llawn cerddoriaeth hyfryd, llawer o ganu a gyda Tudur Owen yn sgwrsio ag Elin rhwng caneuon a braf oedd dod i wybod mwy amdani- gan gynnwys y ffaith ei bod yn caru’r Nadolig gymaint mae ganddi goeden Nadolig yn pob ystafell o'r tŷ!
Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr iawn, ac mae Rachel bellach yn googling lle gall hi gael gwisg secwin "tân gwyllt", er nad ydym yn siŵr y bydd hi'n ei thynnu i ffwrdd cystal ag y gwnaeth Elin Fflur!
Hyfryd oedd gorffen y noson gydag Elin a'r gynulleidfa i gyd yn canu "Harbwr Diogel" gyda'i gilydd.
Roedd y sioe yn cael ei recordio felly gobeithio y bydd yn cael ei darlledu ar S4C yn y dyfodol agos!
Comments