Ar ddydd Mawrth 11eg Gorffennaf gwahoddwyd Annedd Ni i ymuno â Pontio ar gyfer dangosiad arbennig o "Puss in Boots; The Last Wish". Roedd Pontio yn awyddus i gael rhywfaint o adborth ar hygyrchedd i fwydo i mewn i’w fideo hygyrchedd newydd a fydd yn cael ei lansio ar eu gwefan yn y dyfodol. Wrth wylio’r ffilm roedd Pontio wedi addasu’r lefelau sain i 75%, ac wedi defnyddio’r gosodiad “hamddenol” ar gyfer y goleuo oedd yn golygu bod pawb yn gallu gweld os oedd angen symud o gwmpas o gwbl neu fynd i’r toiled, ond roedd hi dal yn ddigon tywyll i cael yr awyrgylch sinema! Roedd y ffilm yn wych gyda llawer o chwerthin a chwerthin drwyddi draw!
Ar ôl y ffilm aeth Manon a Dion â ni i gyd am daith yn dangos Theatr Bryn Terfel ac ystafell y Stiwdio i ni lle eisteddon ni a chael diod a sgwrs am sut roedd pawb wedi mwynhau eu hymweliad ac unrhyw beth y gellid ei wella!
Hoffwn ddiolch i Pontio unwaith eto am ein gwahodd i gymryd rhan - mae'n fraint gallu rhoi ein barn i fusnes lleol sy'n awyddus i sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl!
Comments