top of page
Writer's pictureAnnedd Ni

MonologAye- A Blas Pontio Project

Yn gynharach eleni fe gysylltodd Mared, y bydd llawer yn ei chofio o’i dyddiau yn arwain ein sesiynau cerdd yn Annedd Ni, â mi i ofyn a allwn feddwl am unrhyw un o Annedd Ni a allai fwynhau rhannu eu profiadau a’u meddyliau am Fangor fel rhan o prosiect sydd i ddod. Daeth un wraig i'w meddwl ar unwaith; Mae Beryl, sy’n byw ym Mangor yn yr un tŷ ers bod yn ferch ifanc, ac sydd bellach yn agosáu at ei phenblwydd yn 80 oed (nid y byddech chi byth yn credu’r peth!) yn hel atgofion gyda ni am Fangor, a’r profiadau lu a gafodd yn ystod ei hoes. Cam nesaf y prosiect oedd cyflwyno Beryl i Buddug, sef yr awdur yn coladu’r holl straeon a gwybodaeth hyfryd oedd gan Beryl i’w rhannu, a chreu monolog unigryw Beryl.




Cyfarfu Buddug a Beryl ambell dro yn Annedd Ni, dros baned wrth gwrs! A chafodd Beryl gyfle i sôn am yr hyn y mae Bangor yn ei olygu iddi a rhannu atgofion melys. Dydd Mercher Medi 6ed oedd y diwrnod mawr: MonologAye perfformiad o 10 Monolog unigryw yn rhannu straeon o Fangor. Darllenodd Buddug fonolog Beryl, gyda Beryl yn eistedd yn falch wrth ei hochr yn dal ei llaw! Beryl rydyn ni mor falch ohonot - am brofiad anhygoel gallu dweud dy stori, ac mor ddewr ohonoch yn eistedd ar y llwyfan gyda Buddug yn clywed dy eiriau yn canu yn y theatr! Rydym mor falch bod cymaint o’ch ffrindiau a’ch teulu wedi gallu dod draw i wrando ac i’ch cefnogi chi hefyd!








Diolch yn fawr iawn i Mared am ein gwahodd i fod yn rhan o'r prosiect hwn, ac i Buddug am fod mor hynod garedig a thalentog yn dod â monolog Beryl yn fyw. Diolch yn fawr iawn hefyd i Pontio am gyfrannu elw’r noson i Annedd Ni, gan ein galluogi i fuddsoddi mewn offer newydd ar gyfer ein sesiynau i gynnig cymaint o gyfleoedd ag y gallwn i unigolion!







Comentários


bottom of page