top of page

Carolau yn y Co-op!

Writer's picture: Annedd NiAnnedd Ni

Rydym ni yn Annedd Ni yn gyffrous iawn ein bod wedi cael ein dewis fel un o Achosion Cymunedol Co-op!



Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un sydd â cherdyn aelodaeth co-op ddewis fel eu hachos, a phob tro maen nhw'n siopa ac yn sganio'r cerdyn hwnnw nid yn unig maen nhw'n casglu gwobrau iddyn nhw eu hunain ond mae co-op yn rhoi rhywfaint o arian i mewn i bot Annedd Ni hefyd! Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol i ddarparu cyrsiau lles sy’n rhedeg dros 10 wythnos yma, a bydd cyfle i ddysgu am gadw’n iach mewn corff a meddwl, gwneud ffrindiau ac ymweld â lleoedd yn y gymuned leol hefyd!



https://membership.coop.co.uk/causes/71460



Ein siop gysylltiedig yw’r Co-op yn Llanfairpwll, ond gallwch ddewis Annedd Ni fel eich achos lleol o unrhyw le yn y wlad a chyfrannu drwy sganio eich cerdyn aelodaeth yn unrhyw un o’u siopau ledled y UK! I rannu ychydig o hwyl yr wyl ar nos Wener Rhagfyr 9fed cyfarfu criw cerdd Annedd Ni ac ambell un arall sydd wrth eu bodd yn canu yn Co-op Llanfairpwll i ganu carolau Nadolig i’r cwsmeriaid! Roedd yn awyrgylch gwych ac yn sicr wedi fy nghael yn ysbryd y Nadolig! Bu Co-op yn ddigon caredig i ddarparu mins peis i ni ac roedd yn fore braf - rhewllyd tu allan ond gadawodd pawb gyda chalonnau cynnes!







0 comments

Comments


Polisi Preifatrwydd

36 Ffordd Sackville

Bangor

Gwynedd

LL57 1LD

E-bost: anneddni@anheddau.co.uk
Ffôn: 01248 355412

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Diolch yn Fawr!

© 2020 gan Wasanaeth Dydd Annedd Ni.

Defnyddiwch y ffurflen hon i gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau:

Diolch am gyflwyno!

bottom of page