top of page

Parti Diwedd Haf 2023!

Writer: Annedd NiAnnedd Ni

Daeth ein sesiynau Clwb Gwyliau Haf dydd Mawrth i ben gyda Pharti Diwedd yr Haf a gynhaliwyd yng Nghlwb Pêl-droed Bangor ar y 29ain o Awst. Braf oedd cael cymaint o bobl yn ymuno â ni, llawer o rai cyfarwydd ond hefyd llawer o rai newydd hefyd! Bloedd arbennig i holl unigolion Antur Waunfawr - braf oedd gweld cymaint ohonoch yn bresennol!


Gwnaeth Dewi waith anhygoel fel ein DJ a chadw'r tiwns i ddod i gael pawb i ddawnsio, a chawsom draciau Karaoke gwych hefyd! Diolch yn fawr iawn i fan hufen iâ "Two Grumpy Guys" a ddaeth allan i'r parti a darparu hufen iâ o'u dewis i bawb - daeth yr haul allan i ni hefyd! Dyma rhai lluniau o'r pnawn- dwi'n meddwl ein bod ni gyd yn rhy brysur yn cael hwyl i dynnu llawer!

























Ein parti nesaf fydd ein Parti Calan Gaeaf - Dydd Mercher 25ain Hydref 6-9pm! Edrychwch allan am y poster yn dod yn fuan!

 

Recent Posts

See All

Cwmni Serol- Perfformiad Nadolig

Yn 2023 ymunodd Annedd Ni a Franwen i ddatblygu ein grŵp drama i'r 'Cwmni Serol' newydd. Ar ddydd Llun 16 Rhagfyr roedd ein grŵp i gyd...

Parti Nadolig Annedd Ni 2024!

Ar y 3ydd o Ragfyr cynhaliodd Annedd Ni eu parti Nadolig blynyddol yng Nghlwb Pêl-droed Bangor - roedd yn brynhawn gwych llawn hwyl yr...

Plant mewn Angen 2024!

Yr wythnos hon cafodd ein grŵp sgiliau dydd Mawrth ymweliad annisgwyl gan Pudsey Bear! Fel rhan o’r sesiwn fe ddysgon ni ychydig am Plant...

Comentarios


Polisi Preifatrwydd

36 Ffordd Sackville

Bangor

Gwynedd

LL57 1LD

E-bost: anneddni@anheddau.co.uk
Ffôn: 01248 355412

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Diolch yn Fawr!

© 2020 gan Wasanaeth Dydd Annedd Ni.

Defnyddiwch y ffurflen hon i gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau:

Diolch am gyflwyno!

bottom of page