Er nad yw'r tywydd yn hafaidd iawn, nid yw ein Clwb Gwyliau Haf wedi gadael i hyn eu hatal rhag cael hwyl hyd yn hyn!
Rydym wedi cael llawer o hwyl yn rhoi cynnig ar weithgareddau newydd fel Golff Troed, cael sesiwn gerddoriaeth gyda Canolfan Gerdd William Mathias ac ymweliad gan Alison sy’n gweithio yn Heddlu Trafnidiaeth Prydain!
Dyma ychydig o luniau o'r hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud!
Mae gennym fwy o weithgareddau cyffrous ar y gweill ar gyfer mis Awst, gydag ymweliad ag Asynnod Eryri, beicio o amgylch Caernarfon, taith sinema a heb anghofio ein Parti Diwedd Haf ar y dydd Mawrth olaf ym mis Awst!
Cysylltwch â Rachel os hoffech fwy o wybodaeth!
Comments