Ddydd Mercher 26 Hydref cynhaliodd Annedd Ni eu parti Calan Gaeaf cyntaf ers 2019! Roedd hi mor hyfryd cael tŷ llawn, i weld hen ffrindiau a newydd, ac roedd gwisg ffansi rhyfeddol o arswydus hefyd! Cynhaliwyd y parti hwn yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon, mae gennym unigolion o bob rhan o Ogledd Cymru yn mynychu ein partïon - o Ogledd Môn, i Ddinbych a'r holl ffordd i lawr i Drawsfynydd felly tra ein bod wedi ein lleoli ym Mangor efallai y bydd ein partïon yn symud o gwmpas i sicrhau maent yn hygyrch i bawb! Roedd hi'n noson wych, lot o ddawnsio - rhai cantorion anhygoel ar y Karaoke hefyd, gweiddi allan i Amber a ganodd un o fy hoff ganeuon Nadolig yn profi nad yw hi byth yn rhy gynnar i deimlo'n Nadoligaidd!
Roedd llawer o wisgoedd anhygoel yn ein cystadleuaeth Gwisg Ffansi - mae'r safon yn gwella bob blwyddyn! Da iawn i bawb wnaeth yr ymdrech i wisgo lan - roeddech chi i gyd yn edrych yn fendigedig!
Da iawn i'n henillwyr: Ashlee, Gavin, David and Charlotte!
Ac i'n henillwyr pwmpenni cerfiedig ac addurnedig hefyd- Andrea, Siwan, Beryl and Jack!
Diolch yn fawr iawn i Dewi am fod yn DJ anhygoel fel arfer! Chwarae holl ffefrynnau Calan Gaeaf a chael ni i gyd ar y llawr dawnsio gydag alawon gwych! Ac i dîm Annedd Ni sy'n gweithio mor galed i wneud pob parti yn llwyddiant!
Dyma ychydig mwy o luniau o'r noson!
Comments