top of page
Writer's pictureAnnedd Ni

Casglu Syniadau ac Ysbrydoliaeth ar gyfer ein Murlun!

Ym mis Mai cawsom y newyddion cyffrous bod yr artist Jess Bala yn cael ei gomisiynu gan Gyngor Tref Bangor i greu murlun yn dathlu Bangor ar Dalcen adeilad Annedd Ni!



Daeth Jess i Annedd Ni a chynnal gweithdy lle buom i gyd yn rhannu ein hoff atgofion a mannau ym Mangor.


O hyn rydyn ni'n tynnu lluniau ar bolystyren, yna'n defnyddio inc a rholeri i wneud printiau o'n dyluniadau!


Cynhyrchwyd gwaith anhygoel, a braf oedd gweld a chlywed am yr hyn y mae Bangor yn ei olygu i bawb!


Dyma rai lluniau o'r sesiwn, gwyliwch allan am newyddion am y murlun yn cael ei beintio mis nesaf!





Comentários


bottom of page