Ddydd Mercher 2 Awst cynhaliodd Annedd Ni eu Parti Haf cyntaf 2023! Fe wnaethom gynnal y parti yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon, a phenderfynu ar thema Gwisg Ffansi o "Dathlu CHI!" felly gallai unigolion ddewis gwisgo i fyny fel rhywbeth sy'n dechrau gyda'r un llythyren â'u henw, neu ddod fel eu hunain gwych! Roedd yn barti gwerth chweil arall, a chafwyd llawer o ddawnsio, Karaoke, bwffe toreithiog a llawer o hwyl! Da iawn i'n henillwyr Gwisg Ffansi:
Jen y Barnwr Ashlee y "Alice in Wonderland"
Geoffrey y Gard Andrea y Nyrs Angela
Luke y "Luke Skywalker"- dim llun yn anffodus o hwn, ond roedd y llu gydag ef!
A Caroline y "Cat in the Hat"
Gwnaethpwyd ymdrech wych gan gymaint ac mae'n ddrwg gen i na allem roi gwobrau i chi i gyd! Dyma rhai lluniau o'r noson!
Diolch yn fawr i "Sparkly Sue", Dewi DJ, Dr Denise and "Leopardprint Loveth" am eu gwaith caled ar y noson yn sicrhau bod pawb wedi cael amser gwych!
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ein Parti Diwedd Haf ar 29ain Awst!
Rachel aka Little Red Riding Hood!
Comments