top of page

Annedd Ni: Drama Sioe Nadolig!



Mae ein grŵp Drama wedi bod yn gweithio'n galed ar gynhyrchu sioe Nadolig, yn seiliedig ar sioe ITV 'I'm a Celebrity Get me Out of Here' a ffilmiwyd yn ddiweddar yng Ngogledd Cymru fel eu hysbrydoliaeth! Wrth gynnal ein sesiynau wythnosol trwy Google Meet bu llawer o heriau technegol i'w goresgyn, yn ogystal â'r unigolion sy'n dysgu eu llinellau! Rwy'n siŵr y cytunwch fod Hannah a Tracy wedi gwneud gwaith anhygoel, a diolch yn fawr i Dewi hefyd am ei holl gymorth gyda'r cynhyrchiad! Gobeithio y gwnewch chi fwynhau! Cliciwch ar y ddolen YMA i fynd â'n sianel YouTube i weld y sioe! Nadolig Llawen!





Comments


bottom of page